Skip to content ↓

Cyngor DYSGlair

Mae Cyngor DYSGlair yn is-bwyllgor o'r Cyngor Ysgol.

Maen nhw’n bwyllgor Addysgu a Dysgu sy’n sicrhau bod llais y disgybl yn helpu i ddatblygu addysgu a dysgu ar draws pob oedran.

Bob blwyddyn mae gan gyngor DYSGlair eu Cynllun Datblygu eu hunain sy'n gysylltiedig ag un o'n Blaenoriaethau Ysgol Gyfan.

Yn y gorffennol mae DYSGlair wedi cyflwyno Pedwar Diben y Cwricwlwm Newydd i Gymru i rieni, wedi hybu’r defnydd o’r Gymraeg drwy’r ysgol ac hefyd wedi creu ffilm i rieni ddeall strategaethau Adborth a Marcio Ysgol Henry Richard.

Gwyliwch rai o’u cyflwyniadau yma:-

Ffilm am Adborth yn YHR. 

Cyflwyniad i Bedwar Diben y Cwricwlwm Newydd

Ar gyfer 2024 - 2025 blaenoriaeth DYSGLAIR yw ymchwilio a chyflwyno canfyddiadau ar Addysgu er Cof. Bydd hyn yn cynnwys Teithiau Dysgu o amgylch yr ysgol, cyfarfod ag arbenigwyr addysgeg a chreu ffilm i rannu gwybodaeth am Ymarfer Adalw a Thechnegau Adolygu gyda’r gymuned ehangach.