Ffês 3
Ffês 3 yw ffês hŷn yr ysgol sy'n cynnwys disgyblion ym mlynyddoedd 9 i 11.
Mae Ysgol Henry Richard yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn medru cynnig amrywiaeth o gyrsiau i’r safon uchaf yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae gennym athrawon a staff ymroddgar dros ben sydd yn cynorthwyo’r disgyblion i sicrhau llwyddiant. Yn ystod ffês 3, bydd disgyblion yn astudio'r pynciau isod:
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Addysg Grefyddol, Addysg Gorfforol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) a’r Bagloriaeth Cymreig.
Yn ogystal, gall y disgyblion ddewis o’r pynciau isod ar gyfer TGAU:
Addysg Gorfforol, Amaethyddiaeth, ASDAN/COPE, Astudiaethau Crefyddol, Busnes, Bwyd a Maeth, Celf a Dylunio, Cerddoriaeth, Daearyddiaeth, Drama, Dylunio a Thechnoleg, Ffrangeg, Ffotograffiaeth, Gwyddoniaeth Driphlyg, Hanes, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mathemateg Ychwanegol, Sgiliau Gwaith, Technoleg Gwybodaeth a Thecstilau.
Wrth i’r disgyblion ddechrau’r ar eu haddysg yn Ffês 3 y prif ffocws fydd sicrhau eu bod yn dewis cyrsiau addas ar gyfer y dyfodol. Ar ddiwedd blwyddyn 8 bydd y disgyblion yn dewis un TGAU ac yn dechrau ar y cyrsiau hyn ar ôl hanner tymor yn nhymor yr haf. Yn ystod CA3 bydd cynnydd disgyblion yn cael ei dracio’n ofalus er mwyn rhoi pob cyfle iddynt gyrraedd eu potensial academaidd. Yn ogystal â chanolbwyntio ar waith academaidd, anogir pob disgybl i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Yn ogystal â hyn, drwy'r eu cyfnod yn Ffês 3, bydd yr ysgol yn trefnu profiadau cyfoethog i ddisgyblion yn ffocysu ar brofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith.
Arweinwyr Ffês 3:– Mrs Louise Sherman a Mrs Meira Harries