Ffês 1
Dechreuir taith addysgol disgyblion Ysgol Henry Richard yn y Meithrin fel y cam cyntaf yn Ffês 1. Yn gyffredinol, derbynnir plant i’r Meithrin yn rhan-amser yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed. Yn yr un modd, cychwynnir yn y Dosbarth Derbyn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed. Gweler tabl trefniadau cofrestru isod:
Oedran | Dyddiad y mae'n rhaid cyrraedd yr oed priodol | Dyddiad dechrau | |
Rhan amser | 3 | Awst 31ain | Tymor yr Hydref |
Rhan amser | 3 | Rhagfyr 31ain | Tymor y Gwanwyn |
Rhan amser | 3 | Mawrth 31ain | Tymor yr Haf |
Llawn amser | 4 | Awst 31ain | Tymor yr Hydref |
Full Time | 4 | Rhagfyr 31ain | Tymor y Gwanwyn |
Full Time | 4 | Mawrth 31ain | Tymor yr Haf |
O oed Meithrin hyd at ddiwedd Blwyddyn 2, bydd eich plentyn yn dilyn cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen. Yn ystod y cyfnod yma mi fydd yn astudio’r meysydd canlynol:
- Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
- Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Mathemategol
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol
Ym mlynyddoedd 3 a 4 cyflwynir y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ffurf gweithgareddau thematig a phynciol. Dilynir themâu ‘Cornerstones’ ar gylchdro o 4 mlynedd. Ein bwriad yw cynnig darpariaeth gyfoethog i bawb sydd ar flaen y gad, gan roi profiadau byth gofiadwy i’r dysgwyr. Caiff y dysgwyr gyfle i fynd ar drip sbardun unwaith y tymor pan fo hynny’n bosibl.
Yng mlynyddoedd 3 a 4 bydd eich plentyn yn astudio’r pynciau canlynol:
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Technoleg, Technoleg Gwybodaeth, Astudiaethau Crefyddol, Daearyddiaeth, Hanes, Addysg Gorfforol, Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Celf a Cherddoriaeth.
Arweinydd Cynnydd Ffês 1 yw Mrs Carys Stephens