Clybiau a Gweithgareddau Allgyrsiol
Ni fydd addysg eich plentyn yn cael ei gyfyngu i’r ystafell ddosbarth yn unig. Rydym yn manteisio ar ystod o gyfleoedd sy’n rhoi profiadau dysgu cyfoethog i’n disgyblion. Mae gan yr ysgol draddodiad cryf o gystadlu ar y cae chwarae ac ar lwyfannau eisteddfodau. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd cyson i berfformio o flaen cynulleidfa.
Un o gryfderau mawr Ysgol Henry Richard yw’r cyfleoedd a gaiff y disgyblion i ddatblygu eu sgiliau wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol ar hyd y flwyddyn; o’r llwyfan mewn gweithgareddau celfyddydol a siarad cyhoeddus i’r maes chwarae, mewn gweithgareddau gyrfaoedd a busnes a hybu diddordeb gwleidyddol i weithgareddau amgylcheddol.
Fel disgybl yn Ysgol Henry Richard, fe gaiff eich plentyn lu o gyfleoedd gwahanol i ddatblygu eu diddordebau personol ac i brofi pethau newydd.
Mae gweithgareddau’r Urdd yn boblogaidd yn yr ysgol gyda llwyddiant blynyddol yn yr eisteddfod ar y llwyfan mewn cystadlaethau cerddorol, llefaru a siarad cyhoeddus ac yn y maes celf a dylunio. Bydd yr adran Addysg Gorfforol yn cystadlu hefyd mewn twrnameintiau a drefnir gan yr Urdd, twrnameintiau sirol a gemau ar ôl ysgol yn erbyn ysgolion y sir.
Rydym yn ymfalchïo yn llwyddiant ein disgyblion yn yr holl feysydd hyn.
Trefnir teithiau yn flynyddol i ymweld ag orielau celf, i berfformiadau byw mewn theatrau a neuaddau cyngerdd yn ogystal â theithiau preswyl i ddinasoedd, gwersylloedd yr Urdd ac i sgîo.